Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd
Iau, 4 Tachwedd 2021
Amser:
08.45
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Helen Finlayson
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
SeneddIechyd@senedd.cymru
------
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae’r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv
Rhag-gyfarfod preifat (08.45 - 09.15)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
(09.15)
2 Sesiwn graffu ar ôl penodi gyda'r Cadeirydd dros dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
(09.15-10.00) (Tudalennau 1 - 12)
Mr Emrys Elias,
Cadeirydd dros dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Briff ymchwil
Papur 1 - Bywgraffiad
Egwyl (10.00-10.15)
3 Gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol: sesiwn dystiolaeth gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru
(10.15-11.45) (Tudalennau 13 - 42)
Alexandra Howells, Prif Weithredwr - Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Julie Rogers, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol - Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Sue Evans, Prif Weithredwr - Gofal Cymdeithasol Cymru
Sarah McCarty, Cyfarwyddwr Gwella a Datblygu - Gofal Cymdeithasol Cymru
Briff ymchwil
Papur 2 - Tystiolaeth ysgrifenedig gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru
Ymatebion i’r ymgynghoriad ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol
4 Papurau i'w nodi
(11.45)
4.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn perthynas â gwaith craffu pwyllgorau'r Senedd ar fframweithiau cyffredin
(Tudalennau 43 - 50)
4.2 Llythyr gan Awdurdod Ystadegau'r DU ynghylch cyhoeddi ei adroddiad: Gwella ystadegau iechyd a gofal cymdeithasol: y gwersi a ddysgwyd o bandemig COVID-19
(Tudalennau 51 - 53)
4.3 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Canolfan Ganser arfaethedig Felindre
(Tudalennau 54 - 56)
4.4 Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Canolfan Ganser arfaethedig Felindre
(Tudalennau 57 - 58)
4.5 Llythyr at y Cadeirydd gan Pancreatic Cancer UK
(Tudalennau 59 - 60)
4.6 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Iechyd a Gofal
(Tudalennau 61 - 62)
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
(11.45)
6 Sesiwn graffu ar ôl penodi: trafod y dystiolaeth
(11.45-11.55)
7 Gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol: trafod y dystiolaeth
(11.55-12.05)
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Iechyd a Gofal: trafod y dystiolaeth ysgrifenedig
(12.05-12.20) (Tudalennau 63 - 122)
Papur 3 - adroddiad drafft
Papur 4 - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Iechyd a Gofal: Nodyn Cyngor Cyfreithiol
Papur 5 – tystiolaeth ysgrifenedig gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
Papur 6 – tystiolaeth ysgrifenedig gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol
Papur 7 – tystiolaeth ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru
Papur 8 – tystiolaeth ysgrifenedig gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Papur 9 – tystiolaeth ysgrifenedig gan y Cyngor Optegol Cyffredinol
Papur 10 - tystiolaeth ysgrifenedig gan Gonffederasiwn GIG Cymru
9 Adferiad COVID-19
(12.20-12.30) (Tudalennau 123 - 130)
Papur 11: Adferiad COVID: nodyn o'r materion a drafodwyd ag academyddion ar 7 Hydref 2021
10 Blaenraglen Waith
(12.30-12.40) (Tudalennau 131 - 138)
Papur 12 – Blaenraglen waith
11 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: dull o graffu
(12.40-12.50) (Tudalennau 139 - 147)
Papur 13 – y dull o graffu ar y gyllideb
12 Ymchwiliad i lif cleifion: trafod dulliau
(12.50-13.00) (Tudalennau 148 - 154)
Papur 14 – papur cwmpasu
13 Gwrandawiad cyn penodi: Cadeirydd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: trafod y dull
(13.00-13.10) (Tudalennau 155 - 158)
Papur 15 – papur cwmpasu